Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2016
Amser: 09.03 -
09.44
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/3791
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mike Hedges AC (Cadeirydd) Gareth Bennett AC Janet Finch-Saunders AC Neil McEvoy AC |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig er mwyn rhannu'r sylwadau a wnaed yn ddiweddar gan y deisebydd, ac er mwyn gofyn am gael gwybod pan fydd cwmpas ac amserlen ar gyfer datblygu cynigion diwygio yn cael eu cwblhau y flwyddyn nesaf.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am sylwadau'r deisebydd cyn penderfynu a ddylid cymryd camau gweithredu pellach.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i longyfarch y deisebydd ar ganlyniad llwyddiannus ei ymgyrch ac i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ofyn i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon rannu copi o ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon pan fydd wedi dod i law, ac i ofyn am ragor o sylwadau gan y deisebydd bryd hynny.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan nad yw'r deisebydd wedi ymateb i nifer o geisiadau am sylwadau ganddo ar yr ohebiaeth sydd wedi dod i law yn ystod y chwe mis diwethaf.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· Cael tystiolaeth ychwanegol gan Diabetes UK Cymru;
· aros am unrhyw ymateb y mae'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn ei gael gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc a; a
· defnyddio'r rhain fel sail ar gyfer llythyr arall at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon.
Trafododd y Pwyllgor y datganiad a wnaed yn ddiweddar gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith a chytunodd i longyfarch y deisebwyr ar ganlyniad llwyddiannus eu hymgyrch ac i gau'r ddeiseb.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am ganlyniadau'r archwiliad yn ogystal ag ymateb y deisebydd cyn trafod y ddeiseb ymhellach.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan nad yw'r deisebydd wedi ymateb i nifer o geisiadau am sylwadau ganddo ar yr ohebiaeth sydd wedi dod i law yn ystod y chwe mis diwethaf.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb. Yn sgil y gwaith sy'n mynd rhagddo ar y mater hwn, a'r sylw sy'n cael ei roi iddo gan Bwyllgor arall, penderfynodd y Pwyllgor y dylid cadw golwg ar y mater.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith i roi gwybod iddo am sylwadau'r deisebydd ac i ofyn am wybodaeth ynghylch y datblygiadau diweddaraf.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i aros am wybodaeth ynghylch Bil Cymru cyn ail-drafod y mater â Llywodraeth Cymru.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd ar y camau a ganlyn:
· aros am sylwadau'r deisebydd ar yr ymateb a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig; ac
· ysgrifennu at Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru i ofyn am sylwadau’r sefydliad ar bwysigrwydd y materion a godwyd yn y ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan nad yw'r deisebydd wedi ymateb i nifer o geisiadau am sylwadau ganddo ar yr ohebiaeth sydd wedi dod i law yn ystod y chwe mis diwethaf.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd ynghylch y ddeiseb a chytunodd i roi rhagor o amser i’r deisebydd roi sylwadau ar yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ar y pryd.
Cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb, gan nad yw'r deisebydd wedi ymateb i nifer o geisiadau am sylwadau ganddo ar yr ohebiaeth sydd wedi dod i law yn ystod y chwe mis diwethaf.
Derbyniwyd y cynnig.
1.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith.